Ydi Cymanfa Bedyddwyr Dwyrain Morgannwg yn Torri’r Gyfraith?

Hysbyseb Cymanfa Bedyddwyr Dwyrain Morgannwg yn Golwg

Hysbyseb yn Golwg

Ymddangosodd yr hysbyseb hwn yn rhifyn diweddaraf Golwg (16/09/10).

Mae’r gymanfa yn chwilio am drefnydd, a “disgwylir iddo fod yn Gristion ymroddedig”.

Mae’r ddeddf yn atal gwhaniaethu ar sail crefydd. Ymddengys bod yr hysbyseb hwn yn groes i hyn.

Meddai tudalen Gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred direct.gov “You are protected against discrimination through any recruitment process” (Dyma ddolen i’r dudalen Gymraeg, ond nid yw’r frawddeg hon yn ymddangos arni).

Nid oes chwaith y geiriad “iddo/iddi” yn yr hysbyseb? Does bosib nad ydyn nhw’n meddwl bysa dyn yn well na dynes?

Dyma’r ddeddf yn llawn: The Employment Equality (Religion or Belief) Regulations 2003.

~ gan meigwilym ar 17 Medi 2010.

2 Ymateb to “Ydi Cymanfa Bedyddwyr Dwyrain Morgannwg yn Torri’r Gyfraith?”

  1. Dwi’n tybio mae llithriad gramadegol/ieithyddol yw peidio defnyddio iaith gynhwysol. Wrth gwrs fod croeso i ferched drio am y swydd hôn, dwi’n adnabod pobl sy’n gwneud swyddi tebyg mewn Cymanfaoedd eraill ac mae’r mwyafrif yn ferchaid digwydd bod.

    Ond wrth reswm mae’n rhaid i rywun sydd am weithio i’r Eglwys Gristnogol fod yn Gristion. Nid gwahaniaethu ar sail crefydd yw hyn ond nodi sgil/realiti angenrheidiol i’r gwaith. Run peth ag y byddai rhaid i rywun sydd am gael swydd mewn ffyrm sydd dim ond yn defnyddio Apple Macs fedru defnyddio Apple Macs. Synnwyr cyffredin dyna gyd, dim byd i wneud a camwahaniaethu.

    A gyda llaw mae’r cwestiwn wyt ti wedi ei godi (fod rhaid i chi fod yn Gristion i weithio i’r Eglwys Gristnogol) wedi cael ei herio yn y llysoedd dros y blynyddoedd diwethaf a daeth y dyfarniad o blaid yr Eglwysi ym mhob achlysur (ac eithrio achosion lle roedd y gwaith yn waith ‘secwlar’ beth bynnag e.e. swyddi gweinyddol o fewn yr eglwys, swyddi manual etc…) ac felly dyna yw’r cynsail cyfreithiol nawr. Felly dydy Cymanfa Bedyddwyr Dwyrain Morgannwg ddim yn torri’r gyfraith.

  2. Ti’n tybio; dwi’n cwestiynu.

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

 
Follow

Get every new post delivered to your Inbox.