Adda ab Epa, ac uchafbwyntiau eraill
Pleser oedd darllen y golofn lythyrau yn Y Cymro yr wythnos ddiwethaf.
Ynddo roedd Humphrey Lloyd Humphreys o Lydaw wedi ysgrifennu i’r golygydd mewn ymateb i lythyr oddi wrth Gruffydd Thomas.
Er nad oeddwn wedi darllen llythyr Gruffydd Thomas, ymddengys ei fod yn awyddus iawn i bawb ddilyn reolau’r beibl, or suffer the consequences.
Mae dawn ysgrifennu HLH llawer uwch na’r scriblo dwi’n neud yn y blog yma, ac fe wnaed ei bwynt mewn modd cain.
Ond uchafbwynt y llythyr oedd hwn: “Rhaid i mi ddweud ei bod yn haws i mi dderbyn damcaniaeth Adda ab Epa na derbyn hanes Adda ac Efa Genesis.”
Term athrylithgar gan HLH, a mae’r blog hwn yn tipio’i het iddo, yr holl ffordd i Lydaw.
Uchafbwyntiau
A son am uchafbwyntiau, cyhoeddodd Guto Dafydd fideo ddydd Gwener fel rhan o ddiwrnod (a dathliad) y Pethau Bychain. Ynddo, mae Guto yn rhannu rhai o bethau bychain o’r beibl, sy’n sicr yn rai o uchafbwyntiau’r gyfrol (Rhybudd: anaddas i blant).


Rwan dwi’n dod ar draws y blog yma Mei. Disgwyl mlaen i’w ddilyn. Unig beth ddyweda i ar y cychwyn yw hyn, a dwi’n meddwl ei fod yn berthnasol i Gristnogion hefyd. Rhaid gwylio rhag gweld y byd drwy lygaid ein profiadau ni’n unig. Yn fy achos i, fy mhrofiad i o’r Ysbryd Glân. Yn dy brofiad di, dy ddiffyg profiad. I gael dialog gall rhwng Cristnogion ac anffyddwyr mae’n bwysig cychwyn drwy gydnabod y rhagdyb fod pawb yn cychwyn gyda rhyw fyd olwg ac nad oes byd olwg ‘niwtral’ yn bodoli.
Diolch Rhys.
Na phoener, nid ydw i’n gweld y byd drwy fy niffyg profiad o’r ysbryd glân.
Gobeithio gwan ni fwy o sylwadu ar y blog o hyn ymlaen!