Science Saved my Soul

•13 Rhagfyr 2010 • Gadael Sylw

Dwi heb gael llawer o gyfle i sgwennu yn ddiweddar, felly dyma gyflwyno fideo hyfryd ges i gan ffrind:

Croeso, Bened!

•17 Medi 2010 • 1 Sylw

Mae Prydain yn dathlu wedi i’r hoffus Bab Bened (Ben i’w ffrindiau?) ymweld am ddiwrnod neu ddau.

Wel, ella ddim. Ar noswyl ei ymweliad cafom ein galw yn “wlad drydydd byd” gan un o’i ymgynghoryddion, ac ychwanegodd bod na “anffyddrwydd ymosodol yn lledaenu trwy Brydain” mewn cyfweliad.

Ar ôl glanio, canmolodd y pab Prydain am orchfygu Natsîaeth yn yr ail ryfel byd, a cymharodd hwy â anffyddwyr, er ei fod yntau wedi bod yn aelod o’r Hitler Youth.

Felly dwi’n natsi. Fel arfer mae dadl fawr yn mynd ymlaen cyn cymharu’r ochr arall a’r natsîaid, ond mae’r pab wedi gwneud y symudiad cyntaf fama.

Ar hyn o bryd, mae o’n neud araith arall, yr un fwya gwleidyddol eto yn ol y son, felly bydd digon mwy i sgwnnu am yn y man.

Ydi Cymanfa Bedyddwyr Dwyrain Morgannwg yn Torri’r Gyfraith?

•17 Medi 2010 • 2 Sylw
Hysbyseb Cymanfa Bedyddwyr Dwyrain Morgannwg yn Golwg

Hysbyseb yn Golwg

Ymddangosodd yr hysbyseb hwn yn rhifyn diweddaraf Golwg (16/09/10).

Mae’r gymanfa yn chwilio am drefnydd, a “disgwylir iddo fod yn Gristion ymroddedig”.

Mae’r ddeddf yn atal gwhaniaethu ar sail crefydd. Ymddengys bod yr hysbyseb hwn yn groes i hyn.

Meddai tudalen Gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred direct.gov “You are protected against discrimination through any recruitment process” (Dyma ddolen i’r dudalen Gymraeg, ond nid yw’r frawddeg hon yn ymddangos arni).

Nid oes chwaith y geiriad “iddo/iddi” yn yr hysbyseb? Does bosib nad ydyn nhw’n meddwl bysa dyn yn well na dynes?

Dyma’r ddeddf yn llawn: The Employment Equality (Religion or Belief) Regulations 2003.

Adda ab Epa, ac uchafbwyntiau eraill

•6 Medi 2010 • 2 Sylw

Pleser oedd darllen y golofn lythyrau yn Y Cymro yr wythnos ddiwethaf.

Llythrenolwr Rhonc

"Llythrenolwr Rhonc" - llythyr Humphrey Lloyd Humphreys i'r Cymro. Clic i weld y maint llawn.

Ynddo roedd Humphrey Lloyd Humphreys o Lydaw wedi ysgrifennu i’r golygydd mewn ymateb i lythyr oddi wrth Gruffydd Thomas.

Er nad oeddwn wedi darllen llythyr Gruffydd Thomas, ymddengys ei fod yn awyddus iawn i bawb ddilyn reolau’r beibl, or suffer the consequences.

Mae dawn ysgrifennu HLH llawer uwch na’r scriblo dwi’n neud yn y blog yma, ac fe wnaed ei bwynt mewn modd cain.

Ond uchafbwynt y llythyr oedd hwn: “Rhaid i mi ddweud ei bod yn haws i mi dderbyn damcaniaeth Adda ab Epa na derbyn hanes Adda ac Efa Genesis.”

Term athrylithgar gan HLH, a mae’r blog hwn yn tipio’i het iddo, yr holl ffordd i Lydaw.

Uchafbwyntiau

A son am uchafbwyntiau, cyhoeddodd Guto Dafydd fideo ddydd Gwener fel rhan o ddiwrnod (a dathliad) y Pethau Bychain. Ynddo, mae Guto yn rhannu rhai o bethau bychain o’r beibl, sy’n sicr yn rai o uchafbwyntiau’r gyfrol (Rhybudd: anaddas i blant).

Stephen Hawking: “Dim duw ‘dio”

•3 Medi 2010 • 1 Sylw

Yn ei lyfr newydd, The Grand Design, mae Stephen Hawking yn dweud nad Duw wnaeth greu’r bydysawd, ond Ffiseg. “Because there is a law such as gravity, the universe can and will create itself from nothing,”. Neis de?

Mae Hawking, wnaeth ei farc gyda’i waith ar dyllau duon (black holes), yn cyhoeddi’i lyfr 22 mlynedd ar ôl “A Brief History of Time” oedd yn lwyddiant ysgubol.

Yn y llyfr hwnnw, mae Hawking yn sôn am dduw, ond fel metaffor. O ddiwedd y llyfr: “If we discover a complete theory, it would be the ultimate triumph of reason – for then we should know the mind of God.”

Mae nawr yn son am M-theory, sef ffurf o string-theory, fel y grand unified theory bydd yn ceisio esbonio popeth.

Mae’r stori hon yn fy atgoffa i o gwestiwn Napoleon i Pierre-Simon Laplace am ei lyfr yn disgrifio’r bydysawd: “ond ym mhle mae duw yn hyn i gyd?” Ymateb Laplace oedd “Does dim angen yr hypothesis yna arnai”.

Ac wrth gwrs, mae’r “arweinwyr crefyddol” yn fflio mewn gyda dwy lygaid yn dyn ar gau i ddweud pam bod Hawking yn anghywir.

Deiseb dros Addysg Seciwlar

•10 Mehefin 2010 • Gadael Sylw

Mae ymgyrch dros addysg seciwlar yn yr Iwerddon wedi dechrau.

Ar hyn  o bryd yr Eglwys Gatholig sydd yng nghofal addysg yn yr Iwerddon, ac mae’r ymgyrch yn dadlau y dylai’r wladwriaeth gymryd drosodd, a darparu addysg seciwlar i bawb.

Mae’r wefan secularpetition.com yn cynnwys deiseb i’w harwyddo i gefnogi’r ymgyrch.

“Nid yw Iesu yn ymladd â chleddyf yn y Beibl”

•19 Mawrth 2010 • Gadael Sylw

Ychydig o hiwmor. Dwi’n hoff iawn o’r erthgyglau sy’n ymddangos ar 27b/6, felly o’n i’n meddwl fysa’n werth rhannu yr gyfres ebost fer yma rhwng 27b/6 a “Gwirfoddolwr Cristnogol” yr ysgol leol.

Nid yw Iesu yn ymladd â chleddyf yn y Beibl

Dim hawl i ragfarnu’n erbyn hoywon

•10 Mawrth 2010 • Gadael Sylw

Mae’r Uchel Lys (Supreme Court) wedi penderfynu nad oes gan Lillian Ladele yr hawl i apelio yn erbyn Cyngor Islington wedi iddynt eu disgyblu yn 2008 am wrthod cofrestru partneriaethau sifil rhwng hoywon.

Roedd Ladele wedi gwrthod cymryd rhan yn y seremoniau oherwydd ei “chydwybod crefyddol”, ac fe’i disgyblwyd gan y cyngor am hyn.

“Cydwybod Crefyddol”? Mae’r ddynes yma wedi’i dysgu i goelio un set o ddysgiadau, sy’n seiliedig ar ddehongliad o lyfr â ysgrifennwyd 2000 o flynyddoedd yn ôl. Mae ei “chydwybod” yn rhywbeth sydd wedi’i bwydo iddi yn ddi-gwestiwn gan bobl gul ac atgas.

Buasai’n hurt i rhywun gael eu hesgusodi o gyfraith gwlad oherwydd ‘rheolau’ yn eu llyfr crefyddol penodol hwy. Yng ngeiriau’r Uchel Lys “[her case] does not raise an arguable point of law of general public importance”.

Y Pab yn dod i de

•3 Chwefror 2010 • Gadael Sylw

Blwyddyn newydd dda i bawb, os ychydig yn hwyr.

Yn gyntaf, mae’r pab yn ymweld a’i gyd-gatholigion yn hwyrach y flwyddyn yma. Ia, yr un boi sydd newydd ddeud bod cyfreithiau cydraddoldeb i atgyfnerthu hawliau pobl hoyw, yn torri’r “gyfraith naturiol” h.y. hawl gan grefyddau i wahaniaethu yn erbyn pobl. Bydd ei ymweliad yn costio tua £20 miliwn, bil sy’n cael ei dalu gan y treth dalwyr.

I ymateb i hyn, mae’r Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol (National Secular Society) yn cynnal deiseb ar-lein i fynnu bydd y bil diogelwch yn cael ei dalu gan y Fatican.

Mae’r ddeiseb yn rhan o’r camau i sefydlu Protest the Pope; mudiad o hoywon, pobl sydd wedi’u camdrin gan glerigwyr, ffeministiaid a phawb arall sydd derbyn ymosodiad o rywfath gan y pab (oes ‘na unrhywun heb?).

Yn anffodus mae’ r pab Benedict (neu Pope Palpatine?) yn gam enfawr yn ôl i’r eglwys gatholig. Roedd JPII yn eitha rhyddfrydol ei farn, ond mae BXVI yn benderfynol o’i llusgo ‘nôl i’r oesoedd canol (heb son am y cyhuddiadau o guddio achosion o gamdrin plant).

Dolig Llawen!

•24 Rhagfyr 2009 • Gadael Sylw

Mae’n hawdd iawn i’r credeiniwr ddigwestiwn i neidio ar yr anffyddiwr am ddathlu’r Nadolig heb yr un iot o gred yn Duw/Iesu. Dyma restr fer i dy atgoffa pam nad wyt ti’n ragrithiwr am ddathlu’r Nadolig. Continue reading ‘Dolig Llawen!’

 
Follow

Get every new post delivered to your Inbox.